Sut mae defnyddio nodiadau atgoffa ar iPhone
Mae’r canllaw hwn ar gyfer yr iPhone 4S neu’r iPhone 4, ond mae’r un egwyddor yn berthnasol i ddefnyddwyr yr iPhone 5 newydd hefyd.
Fel rhan o ddiweddariad Apple yn 2011 i’w system weithredu ffonau symudol (iOS), gallwch nawr osod nodiadau atgoffa i’ch hun gan ddefnyddio’r ap Reminders.
Yn wahanol i nifer o apiau eraill ‘rhestr pethau i’w gwneud’, sydd ond yn caniatáu i chi drefnu eich tasgau yn ôl terfynau amser neu flaenoriaeth, mae ap Reminders Apple hefyd yn caniatáu i chi osod rhybuddion a fydd yn ymddangos pan fyddwch chi’n cyrraedd neu’n gadael rhywle penodol, fel cartref neu dŷ ffrind.
Gall defnyddwyr iPhone 4S hefyd ddefnyddio meddalwedd adnabod llais Apple, Siri, i osod nodiadau atgoffa hefyd.
Bydd angen y canlynol arnoch chi:
- dyfais iOS gydag iOS 5 (iPhone, iPod, iPad)
Dilynwch ein canllaw cam-wrth-gam i osod rhybuddion gan ddefnyddio’r ap Reminders
Cam 1: Tapiwch yr ap Reminders ar eich iPhone.
Cam 2: Bydd yr ap Reminders yn agor nawr. Tapiwch y symbol + yn ochr dde uchaf y sgrin.
Cam 3: Bydd cyrchwr yn dechrau fflachio i ddangos eich bod yn gallu mewnbynnu testun. Defnyddiwch fysellfwrdd yr iPhone i deipio beth bynnag yw natur eich nodyn atgoffa. Cliciwch ar Done pan fyddwch chi wedi gorffen.
Cam 4: Bydd y dasg yn ymddangos nawr gyda blwch gwag ar y chwith. Tapiwch ar yr enw rydych wedi’i roi ar gyfer eich tasg, sef ‘Feed the cat’ yn yr enghraifft hon, i ychwanegu gwybodaeth arall, er enghraifft, pryd hoffech chi gael eich atgoffa.
Cam 5: Nawr gallwch ddewis sut hoffech gael eich atgoffa. Cliciwch ar Remind Me.
Cam 6: Dewiswch y dyddiad a’r amser neu’r lleoliad yr hoffech iddynt sbarduno eich nodyn atgoffa a thapiwch Done pan fyddwch chi wedi gorffen.
Bydd nodyn atgoffa’n ymddangos, fel y gofynnwyd, i’ch atgoffa o’ch tasg. Os ydych chi wedi sefydlu gwasanaeth cysoni iCloud Apple ar unrhyw ddyfais iOS arall, byddwch yn cael eich atgoffa o’ch tasgau ar y dyfeisiau eraill hynny hefyd.